Dydd Iau 22 Mai
10:30-15:30
Canolfan YMa, Pontypridd, CF37 4TS.
Mae bwyd yn rhan annatod o'n lles, yn ogystal â chartref da. Bydd y digwyddiad hwn yn trin a thrafod sut y gall ymyriadau hanfodol tai cymdeithasol mewn cymunedau gysylltu â gwaith cenedlaethol uchelgeisiol a newid sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, ei fwyta a'i ddosbarthu.
- Sut gall pŵer bwyd helpu darparwyr tai cymdeithasol i gyflawni eu nodau?
- Sut gall cysylltiadau cymdeithasau tai â systemau bwyd wella lles preswylwyr?
- Sut olwg fyddai ar dai a gynlluniwyd ar gyfer diogelwch bwyd cymunedol?
- Pa bartneriaethau fydd yn galluogi cymunedau i fwynhau bwyd yn well ar gyfer iechyd bodau dynol ac iechyd y blaned?
Mae cymdeithasau tai eisoes yn gwneud cynnydd o ran bwyd: creu mannau ar gyfer tyfu, newid llwybrau caffael, gwella sgiliau coginio tenantiaid. Ond mae mentrau'n parhau i fod bob yn dipyn gan ganolbwyntio ar gymorth bwyd brys yn hytrach nag ymyrryd i atal newyn yn y cartref. Yn y cyfamser, mae gan Gymru brofiad cyfoethog a nodau uchel o ran helpu’r genedl i fwyta’n well. Gall yr arbenigedd hwn ysbrydoli a chefnogi cymdeithasau tai i gyflawni newid trwy fwyd.
Nod y gweithdy hwn yw meithrin cyfraniadau cymdeithasau tai at systemau bwyd mwy cyfiawn a chadarn yng Nghymru, drwy ddod â thair cymuned o arbenigwyr ynghyd:
- ymarferwyr mewn tai cymdeithasol,
- actorion yn llunio lleoedd bwyd cynaliadwy, ac
- ymchwilwyr sy'n arbenigo mewn trawsnewid systemau bwyd a thai.
Y gweithdy:
- Dydd Iau 22 Mai, 10:30-15:30, Canolfan YMa, Pontypridd, CF37 4TS.
- Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg.
- Mae bwrsariaethau teithio ar gael i'r rhai na fydd yn gallu bod yn bresennol fel arall.
- Rhowch wybod i ni am unrhyw drefniadau eraill a fyddai'n eich helpu i gymryd rhan.
- I gofrestru: https://forms.office.com/e/SZJxTz5CjV
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gefnogi gan Gynllun Grant Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae’n cael ei drefnu gan Hafod, Synnwyr Bwyd Cymru ac Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd.